Amdanom Ni
Parc Dewi Sant yw adnoddau cynadleddau a chyfarfod Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe ar ein campws yng Nghaerfyrddin. Mae amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod, ystafelloedd seminar, adnoddau cynadledda a hyfforddiant ar gael. Mae’r holl adnoddau yma wedi’u lleoli o fewn tiroedd prydferth sydd wedi’u cynllunio, ychydig funudau o ganol tref Caerfyrddin, sy’n hawdd ei gyrraedd o’r gorllewin a’r M4. Mae’r adnoddau cynadledda arloesol wedi’u gosod mewn amgylchedd hamddenol gyda digon o barcio yn rhad ac am ddim a golygfeydd gwych o Ddyffryn Tywi.
|
|