Yr ystafelloedd sydd ar gael
Ystafelloedd Cyfarfod
Mae gan Barc Dewi Sant ystod eang o ystafelloedd cyfarfod sy’n eistedd rhwng 12 ac 16 o bobl yr un. Mae’r ystafelloedd yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd busnes neu wybodaeth. Mae cyfrifiaduron â mynediad i’r rhyngrwyd, taflunydd a chyswllt diwifr i’r rhyngrwyd (Wi-Fi) ar gael ymhob stafell.
Ystafelloedd Hyfforddiant
Mae gan Barc Dewi Sant amrywiaeth o ystafelloedd hyfforddiant ar gyfer 20-38 o bobl yr un, gydag amrywiaeth o drefniadau eistedd, sy’n cynnwys byrddau neu heb fyrddau. Mae cyfrifiaduron â mynediad i’r rhyngrwyd, taflunydd a chyswllt diwifr i’r rhyngrwyd (Wi-Fi) ar gael ymhob stafell.
Ystafell Seminar
Mae gennym un ystafell seminar sydd ar gael i 8 o bobl. Mae gliniadur â mynediad i’r rhyngrwyd a Theledu Sgrin Fflat, a chysylltiad diwifr (Wi-Fi) ar gael ymhob ystafell.
Theatrau Cynadledda
Mae gan Barc Dewi Sant dair theatr ddarlithio, sy’n eistedd rhwng 50-71 o bobl. Mae’r adnoddau yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf gyda nifer o nodweddion yn cynnwys cyfrifiadur â mynediad i’r rhyngrwyd a thaflunydd, ac mae cyswllt diwifr i’r rhyngrwyd (Wi-Fi) ar gael ymhob ystafell, yn ogystal â fideo-gynadledda.
Fideo-gynadledda
Mae gennym ystafell Fideo-gynadledda Diffiniad Uchel penodedig ar gyfer hyd at 8 o gyfranogwyr.
Swît Hyfforddiant Cyfrifiadurol
Mae’r swît hyfforddiant cyfrifiadurol yn cynnwys 50 cyfrifiadur sydd wedi’u rhwydweithio ar gyfer eich anghenion hyfforddiant. Mae gan y cyfrifiaduron fynediad i’r rhyngrwyd ac i daflunydd. Mae mynediad rhad ac am ddim Wi-Fi ar gael ymhob ystafell.
Switiau Ymarfer Clinigol
Mae gan Barc Dewi Sant swît sgiliau clinigol wedi’i gyfarparu â’r adnoddau diweddaraf ar gyfer y rheiny sydd angen offer clinigol arbenigol.
|