LLE NEWYDD BYWIOG I WEITHIO AC I YMWELD AG EF
CYFNOD NEWYDD
Ystâd 38 erw yng nghanol Caerfyrddin yw Parc Dewi Sant. Mae'r ystâd yn cynnig gofod amlbwrpas ar draws 22 o adeiladau. Bydd yr ystâd yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan fusnes, gyda ffocws ar wasanaethau iechyd, hamdden ac addysg. Bydd busnesau sydd am weithredu yn y parc yn cael eu dewis yn ofalus gyda'r nod y bydd y deiliaid i gyd yn cynnig gwasanaethau sydd yn ategu ei gilydd. Creu lle bywiog newydd i weithio ac i ymweld ag ef.
HANES PARC DEWI SANT
Fe’i gynlluniwyd fel Ysbyty Meddwl i Aberteifi, Caerfyrddin, Morgannwg a Phenfro, a dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1863. Fe'i cwblhawyd i gynllun llai a'i hagor fel Ysbyty Meddwl i Sir Gaerfyrddin, Aberteifi a Sir Benfro ym 1865 gyda 212 o leoedd.
1860
1880
Adeiladwyd y capel rhwng 1884-1889. Cafwyd llafur am ddim gan staff a chleifion yr ysbyty meddwl. Ni benodwyd unrhyw gontractwr allanol, a dim ond y saer maen oedd yn goruchwylio a'r saer oedd yn cael eu talu. Agorwyd y capel ar 1 Rhagfyr 1888.
1970
Ehangodd yr ysbyty i fwy na 900 o welyau. 10 mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd rhestriad Gradd II i'r prif adeiladau fel "casgliad pensaernïol nodedig, yn ymgorffori'r syniadau diweddaraf ar gynllunio ac adeiladu ysbytai".
2000
Ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain roedd yr ysbyty yn mynd i gau ac erbyn 2003, roedd yr holl gleifion wedi cael eu hadleoli. Prynodd Cyngor Sir Caerfyrddin y safle yn 2003 i atal y llywodraeth genedlaethol rhag benderfynu ar ddefnydd y safle.
2024
Prynwyd Parc Dewi Sant oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin gyda chynlluniau i greu canolfan busnes newydd bywiog, sy’n canolbwyntio ar y sector iechyd, hamdden ac addysg.
YMUNWCH Â'N CYMUNED
Byddem wrth ein bodd pe baech yn dod â’ch busnes i Parc Dewi Sant.
Dewiswch yr opsiwn isod a fyddai'n gweddu orau i'ch busnes.
Os ydych am drafod eich gofynion gyda ni yn uniongyrchol, e-bostiwch enquiries@parcdewisant.co.uk